peetr saunders


Proffil


Mae Peter Saunders yn entrepreneur, angel busnes a dyngarwr.
Adeiladodd fusnesau Halo Foods yng Nghymru wledig a'i ddatblygu'n gr.p o fri byd-eang sydd wedi ennill sawl gwobr.

Dechreuodd Peter y busnes pan yn 24 oed gyda phum aelod o staff. Ar ol chwe blynedd o gynnydd sylweddol, cynigiodd Rowntree brynu'r busnes. Derbyniodd Peter y cynnig ond arhosodd i redeg y busnes i'r cwmni rhyngwladol. Ar ol chwe blynedd arall daeth Rowntree i feddiant Nestle.

Pan fygythiodd Nestle gau'r cwmni Cymreig, camodd Peter i'r adwy a phrynu'r cwmni yn ol.

"Roedd yn gyfnod ansicr" dywedodd "Ond roedd 100 aelod o staff a hwythau'n ffyddlon iawn, ac roedd diwylliant arbennig oedd yn arwain dyn i gredu ei bod yn werth ceisio achub y busnes."

Ailstrwythurwyd, adleoliwyd ac adnerthwyd y busnes. Tyfodd yn gryf, a phan benderfynodd Peter fod yr amser yn iawn i werthu'r busnes eto, roedd 500 o staff yng Nghymru ac roeddynt yn gwneud cynnyrch bwyd i Boots, Cadbury, McDonalds, Marks & Spencer, Nestle, Sainsbury, Slim-Fast, Tesco, Unilever a Weight-Watchers.

Ar ol gwerthu Halo Foods yn 2004, dysgodd Peter hedfan hofrenyddion, a sylfaenodd Severn Aviation. Sefydlodd ysgol hedfan arbenigol a oedd yn fuan iawn yn hyfforddi peilotiaid i Heddlu Llundain, a Diwydiant Olew a Nwy Mor y Gogledd. Mewn cyfnod byr iawn sefydlodd y busnes enw blaengar, a daeth cynnig yn 2008 gan gwmni o'r UD, Bristow i brynu'r busnes. Mae gan Peter bortffolio o fusnesau sydd yng Nghymru ble mae'n buddsoddi ac yn chynghori rheolwyr. Mae'n aelod o rwydwaith Xenos o angylion busnes.

Peter yw cadeirydd Partneriaeth Tywyn ac mae'n ymrwymedig iawn i brosiectau i sefydlu llwybr beiciau diogel oddi ar y ffordd rhwng Tywyn ac Aberdyfi, a phont dros afon Dysynni ar gyfer beicwyr a cherddwyr.

Mae Peter yn frwdfrydig iawn yngl.n a byw yng Nghymru a bod mewn busnes yng Nghymru. Cafodd ei anrhydeddu gydag OBE yn 1995 am ei wasanaeth i fusnesau yng Nghymru.