Mae Ymddiriedolaeth Peter Saunders yn ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd gan yr entrepreneur
Peter Saunders, yn 2005.
Mae Yr Ymddiriedolaeth yn cefnogi prosiectau buddiol gan annog cyrhaeddiad personol yn yr ardal hardd
ond diarffordd rhwng afonydd Dyfi a'r Mawddach. Gall Yr Ymddiriedolaeth hefyd gefnogi prosiectau mewn
ardal ehangach pe gellid dangos y byddai'r gymdogaeth hon yn elwa.
Mae Yr Ymddiriedolaeth yn anelu i hybu rhagoroldeb yn y prosiectau y mae'n eu cefnogi ac yn ffafrio
prosiectau sy'n dangos ymdrech, mesur o hunan-ymddiried, ac ysbryd menter.
Mae Yr Ymddiriedolaeth yn hoffi cefnogi prosiectau y gall eraill ei chael hi'n anodd eu cefnogi, efallai gan
eu bod yn torri tir newydd, yn cynnwys elfen o risg, neu nad oes iddynt apêl boblogaidd. Mae Yr
Ymddiriedolaeth hefyd yn derbyn prosiectau lle mae angen ffordd newydd o feddwl a phan mae'n credu fod
cyfle'n cael ei golli.









