Sut i ymgeisio am nawdd


Nid oes gennym ffurflen gais, a hyn yn fwriadol, gan fod pob cais yn wahanol. Ysgrifennwch atom gan egluro rhinweddau eich prosiect chi. Mae angen peth gwybodaeth arnom a fydd o gymorth i'r Ymddiriedolwyr wneud penderfyniad. Felly, os yn bosibl, a wnewch chi gynnwys y canlynol os gwelwch yn dda:

  • enw'r mudiad neu'r unigolyn
  • enw'r person i gysylltu a fo/hi am y cais
  • cyfeiriad i ohebu, rhif ffon a chyfeiriad e-bost, os yw ar gael
  • os yw'r mudiad yn elusen gofrestredig
  • pwrpas a nod y mudiad, neu eich nod chi os mai unigolyn ydych
  • beth yw maes gweithgaredd eich mudiad
  • graddfa cyfanswm ariannu eich prosiect
  • swm y nawdd a geisiwch gan yr Ymddiriedolaeth
  • ffynonellau nawdd eraill yr ydych wedi ymgeisio amdanynt
  • cynigion nawdd eraill yr ydych wedi eu derbyn
  • ffynonellau nawdd eraill y gwyddoch amdanynt ond nad ydych wedi ymgeisio amdanynt eto
  • a ydych yn bwriadu chwilio am nawdd cyfatebol i'r wobr a gewch gan yr Ymddiriedolaeth
  • fyddai unrhyw wobr gan yr Ymddiriedolaeth yn disodli ffynonellau eraill o nawdd
  • pa weithgareddau y mae'r mudiad neu'r unigolyn yn ei wneud i godi arian
  • pa wahaniaeth y byddai derbyn nawdd gan yr Ymddiriedolaeth yn ei wneud i'ch mudiad, neu i chi
  • yr ardal a fyddai'n elwa o unrhyw wobr a roddir gan Ymddiriedolaeth


Dylai ceisiadau gan fudiadau gynnwys copi o'ch cyfrifon diwethaf a chopi o'ch cyfansoddiad, os yw ar gael.

Anfonwch eich cais i:

Ymddiriedolaeth Peter Saunders,
Blwch Post 67,
Tywyn,
LL36 6AH