Cyraeddiadau


egryn hall

Yn ystod ei oes gymharol fyr, mae'r Ymddiriedolaeth wedi gallu cefnogi amrywiaeth eang o elusennau ac achosion da, o rai sy'n caniatáu i unigolion gyrraedd targedau personol, i brosiectau sy'n ymglymu cannoedd.

Mae myfyrwyr o'n hardal wledig wedi cael cymorth i ymgymryd â phrosiectau heriol mewn llefydd o Antartica i Tanzania. Mae oedolion wedi cael cymorth i wynebu sialensiau personol o rwyfo'r Iwerydd i her ddyddiol byw gydag anabledd.

Trwy sefydlu ysgoloriaeth gyda Choleg yr Iwerydd, bydd yr ymddiriedolaeth yn rhoi cymorth i bobl ifanc o'n hardal i fynychu'r coleg arloesol rhyngwladol hwn yng Nghymru, sy'n anelu i ddarparu addysg o'r radd flaenaf a hybu dealltwriaeth ryngwladol.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn falch iawn hefyd o sefydlu Clwb Dydd Sadwrn yn yr ardal i bobl ifanc sy'n dymuno cymryd rhan mewn gweithgaredd menter yr ifanc neu ddysgu sgiliau ymarferol, fel mecaneg ceir a weldio. Trwy gefnogi ymweliadau gan Ensemble Cymru i ysgolion cynradd ac uwchradd, mae'r disgyblion wedi cael cyfle i weld perfformiadau byw o gerddoriaeth glasurol gan gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda cherddorion cyngerdd.

A thrwy gefnogi Film 15, mae pobl ifanc wedi cael y cyfle i weithio ochr yn ochr gyda gwneuthurwyr ffilm proffesiynol, gan weld prosesau ysgrifennu sgriptiau, actio, camera, sain, goleuo, golygu a phob agwedd o gynhyrchu ffilm ar waith. Mae'r gweithdy'n ysbrydoli pobl ifanc i wneud eu ffilmiau eu hunain, datblygu eu syniadau a'u hannog i ymestyn tu hwnt i'r hyn a feddylient oedd yn bosibl.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn arbennig o falch o fod wedi gallu cefnogi mentrau na fyddai, heb ysgoloriaeth gan yr Ymddiriedolaeth, wedi gallu digwydd.