The Peter Saunders Trust logo
English

Yr Ymddiriedolwyr

Roedd y weithred a sefydlodd yr Ymddiriedolaeth yn darparu ar gyfer penodi Ymddiriedolwyr i oruchwylio'r Ymddiriedolaeth, pennu ei chyfeiriad a sicrhau cydymffurfiad. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn i ystyried ceisiadau am gymorth ac i drafod materion yn ymwneud â'r Ymddiriedolaeth.

Yr Ymddiriedolwyr yw:

Peter Saunders, OBE
Alun Evans, CBE
Theresa Hartland
Paul Saunders, MBA, CIMA
Ifor Williams

Peter Saunders, OBE

Mae Peter yn entrepreneur, yn ddyngarwr ac yn angel busnes oedd yn Gadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Halo Foods tan 2004. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Severn Aviation (www.severnaviation.com); Cadeirydd Partneriaeth Tywyn a Llywydd Cymdeithas Chwaraeon a Hamdden Tywyn a'r Cyffiniau. Dyfarnwyd OBE i Peter yn 1995 am wasanaethau i ddiwydiant yng Nghymru.

Dychwelyd i'r brig

Alun Evans, CBE

Alun yw Dirprwy Raglaw Gwynedd a Chadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn ogystal â bod yn ymddiriedolwr nifer o elusennau. Mae Alun wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain (1985-2000); Cadeirydd Grŵp Yswiriant NFU Mutual (1990-2000), a Chadeirydd NFU Cymru (1983-1985). Yn 1986, dyfarnwyd CBE iddo am ei gyfraniad i Amaethyddiaeth Prydain.

Dychwelyd i'r brig

Theresa Hartland

Roedd Theresa yn Gynorthwyydd Personol i Gadeirydd Grŵp Halo Foods am ryw 20 mlynedd ac yn Ysgrifennydd Cwmni rhai o gwmnïau'r Grŵp. Mae'n weinyddwraig brofiadol sy'n gweithredu fel gweinyddwraig yr Ymddiriedolaeth.

Dychwelyd i'r brig

Paul Saunders, MBA, CIMA

Mae gan Paul, sy'n Gyfrifydd Rheoli, radd mewn economeg (BA) a Gradd Athro mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA). Mae'n aelod o Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA).

Dychwelyd i'r brig

Ifor Williams

Ymunodd Ifor â Heddlu Gogledd Cymru yn 1979 ac mae'n Rheolwr Rhawd Gymunedol yn Nhywyn ers 2002. Ef oedd Swyddog Cymunedol y Flwyddyn Gogledd Cymru yn 2002, ac yn 2006 cafodd ei gydnabod gan Ffederasiwn Heddlu'r Gogledd am ei gyflawniadau fel Swyddog Cymunedol, un o ddim ond chwech a gydnabuwyd ledled Gogledd Cymru.

Dychwelyd i'r brig