English

Dim ond rhai o'r prosiectau a gefnogwyd gennym

Cymdeithas Abbeyfield, Tywyn
rhodd i alluogi'r Gymdeithas i brynu tŷ gwydr i'r trigolion.

Cyngor Cymuned Aberdyfi
rhodd i helpu'r Cyngor i brynu offer maes chwarae newydd.

Dail Dysynni
rhodd i ail-ddylunio banernod papur newydd, ynghyd â thair blynedd o nawdd i dalu am argraffu lliw a chyfraniad i'r cronfeydd cyffredinol.

Tŷ Gobaith
rhoddion i gefnogi gwaith yr hosbis plant sy'n gwasanaethu'r Gogledd a'r Canolbarth.

Eglwys Llanfihangel y Pennant
rhodd i brynu paneli arddangos ar gyfer arddangosfa am fywyd Mary Jones.

Peniel Newydd, Llanegryn
rhodd i brynu cadeiriau newydd i'r capel.

Eglwys Dewi Sant, Abergynolwyn
arian cyfatebol i brynu bwyler newydd i'r eglwys.

Clwb Rheilffyrdd Model Tywyn
rhodd tuag at gost cynnal arddangosfa flynyddol y Clwb.

Clwb Ieuenctid Tywyn
rhodd i alluogi'r clwb i brynu offer caraoce.

Seindorf Arian Tywyn
rhodd tuag at brynu dillad i'r band.

Ysgol Bryncrug
rhodd i alluogi'r ysgol i greu gardd bywyd gwyllt i'r plant.