English

Newyddion : Mai 2008

Drama Bollywood yng nghanolbarth Cymru


Mae prosiect uchelgeisiol gan gwmni ffilm lleol yn bwriadu cyflwyno drama Bollywood i bobl ifainc yng nghanolbarth Cymru gyda chymorth Ymddiriedolaeth Peter Saunders.

Mae Film 15 sydd â'i ganolfan yn y canolbarth, wedi denu'r actor Bollywood, Mayur Raj Verma, a'r cyfarwyddwr/awdur, SnehLataVerma, i weithio ar brosiect sy'n dysgu actio, dawnsio a chreu gwisgoedd i 80 o blant sy'n byw o fewn 10 milltir i Dywyn. Bydd y prosiect hefyd yn dangos i'r bobl ifanc sut i wneud ffilmiau - o gynllunio cynhyrchu i olygu ôl-gynhyrchu - yn ogystal â chreu a chymryd rhan mewn ffilm fer.

Gofynnodd Film 15 i Ymddiriedolaeth Peter Saunders am gyfraniad tuag at y gost o redeg y prosiect uchelgeisiol hwn. Gwnaed argraff ar yr Ymddiriedolwyr gan yr hyn roedd y cwmni wedi'i gyflawni yn ystod prosiectau tebyg yn y gorffennol, ac roeddynt yn falch o gyfrannu.

“Mae'n brosiect llawn dychymyg a gweledigaeth,” meddai Peter Saunders. “Ac mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu am ffilm, sinematograffi, drama, dawns a'r cyfryngau mewn ffordd nad yw ar gael fel arfer mewn ardal wledig fel hyn.”
« Previous Next »