Newyddion : Mai 2008
Padlo i lwyddiant
Mae Clwb Padlo Dysynni wedi tyfu'n anhygoel o gyflym ers iddo gael ei sefydlu ddiwedd 2007, ac eisoes mae ganddo tua 90 o aelodau. Diolch i gyfraniad gan Ymddiriedolaeth Peter Saunders , mae gan y clwb drelar erbyn hyn i gario a storio'i gaiacau.
Sefydlwyd y clwb ym mis Tachwedd 2007 a dechreuodd recriwtio aelodau ym mis Chwefror 2008. I ddechrau, bu'r clwb yn trefnu sesiynau hyfforddi deirgwaith yr wythnos yng Nghanolfan Hamdden Dysynni. Pan ddechreuodd y sesiynau awyr agored ym mis Mai, roedd gan y clwb broblem o ran cludo'i gaiacau a'u storio'n ddiogel.
Roedd Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Peter Saunder yn falch o ddod i'r adwy a chyfrannu arian ffel bod modd prynu trelar arbenigol.
“Mae'r cyfraniad yn un hael dros ben a bydd yn ein helpu i redeg y clwb yn fwy effeithlon,” meddai Keith Bartlett, ysgrifennydd y clwb.

