English

Newyddion : Awst 2008

Ymddiriedolaeth yn galluogi myfyrwyr lleol i gynrychioli Cymru yn Awstralia

Coleg Meirion students
Mae rhodd gan Ymddiriedolaeth Peter Saunders yn galluogi chwe myfyriwr o Goleg Meirion Dwyfor i hedfan i Sydney, Awstralia i gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y gystadleuaeth Menter Fyd-eang.

Enillodd y chwech, sy'n fyfyrwyr astudiaethau busnes yn y coleg, yr hawl i gynrychioli Cymru drwy guro'r gystadleuaeth gan fyfyrwyr a oedd yn cynrychioli 20 o golegau eraill.

Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn her fusnes 24 awr ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd y myfyrwyr eu hasesu ar waith tîm, gwreiddioldeb eu syniad busnes ac ansawdd eu cynllun busnes.

Meddyliodd y tîm am syniad busnes i wella sgiliau gyrru gyrwyr ifanc. Roedd yr angen am wasanaeth o'r fath yn amlwg i'r myfyrwyr ar ôl iddynt golli dau gydfyfyriwr yn drist mewn damweiniau ffordd yn y 12 mis diwethaf. Roedd y syniad a'r ffordd yr aeth y myfyrwyr i'r afael â'r her fusnes yn llwyddiant gyda'r beirniaid.

“Roeddem ni wrth ein bodd pan gyhoeddodd y beirniaid y canlyniadau,” meddai Ryan Weir, “ond nid oedd gennym ffordd o gyrraedd rownd derfynol fyd-eang y gystadleuaeth yn Sydney. Nid oeddem am fod yr unig dîm cenedlaethol nad oedd yn llwyddo i gyrraedd yno.”

Ystyriodd yr Ymddiriedolaeth y cais am gymorth ac fe benderfynodd roi dyfarniad. “Yr allwedd i lwyddiant mewn busnes,” meddai Peter Saunders, “yw meddu ar syniad da a rheolaeth ansawdd dda yn ogystal â'r awch a'r penderfyniad i oresgyn rhwystrau a llwyddo yn y pen draw. Er eu bod yn dal yn ifanc, mae'r myfyrwyr hyn wedi dangos rhai o'r rhinweddau hyn ac maen nhw'n haeddu cynrychioli Cymru yn Sydney.”

“Pan dderbyniom ni'r llythyr gan yr Ymddiriedolaeth yn rhoi gwybod i ni am y dyfarniad, roeddem ar ben ein digon,” meddai David Morris. “Er bod angen i ni godi rhagor o arian o hyd,” ychwanegodd Alex Jones, “roeddem ni'n gwybod bod y dyfarniad hwn yn golygu y gallem bellach ymrwymo i fynd i Awstralia a chynrychioli Cymru.”

Maureen Jones yw'r cydgysylltydd astudiaethau busnes yng Ngholeg Meirion Dwyfor a hi yw athrawes y myfyrwyr, y mae tri ohonynt yn gyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Tywyn. Bydd hi a dau athro arall yn mynd gyda'r myfyrwyr. “Ni allaf ddiolch i Ymddiriedolaeth Peter Saunders ddigon am gydnabod llwyddiant ein myfyrwyr a'u cefnogi yn y cyfle bywyd hwn. ”

Mae gan Mrs Jones y dasg o gadw traed y myfyrwyr yn gadarn ar y ddaear am y tro gan fod eu harholiadau Safon Uwch galwedigaethol ar y gorwel. Bydd hon yn dipyn o her gan fod yr awyren i Sydney yn gadael yn syth ar ôl yr arholiad olaf!
« Previous Next »