Newyddion : Mai 2008
Yr Ymddiriedolaeth yn helpu hen filwr i aros yn Nhywyn
Mae cyfraniad gan Ymddiriedolaeth Peter Saunders wedi galluogi hen filwr methedig i aros yn Nhywyn, y dref y mae'n byw ynddi ers dros 40 mlynedd.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi talu am newidiadau i ystafell ymolchi yn Nh? Abbeyfield, sydd wedi galluogi'r gymdeithas i gynnig ystafell i Ken Stephens, 85 oed, a gollodd ei ddwy goes yn 2000. Ar ôl i'w wraig farw'r llynedd, sylweddolodd Ken y byddai'n anodd iddo aros yn ei gartref ei hun heb gymorth. Roedd Abbeyfield yn ateb delfrydol, gan gynnig iddo rywfaint o annibyniaeth ynghyd â chymorth yn ôl yr angen. Fodd bynnag, am ei fod yn dibynnu ar gadair olwyn, roedd y cyfleusterau ymolchi yn y t? yn annigonol, er bod ystafell ar gael.
Daeth Ymddiriedolaeth Peter Saunders i'r adwy a darparu'r cyllid angenrheidiol i addasu'r ystafell ymolchi sydd ynghlwm wrth ystafell wely, a bu modd i Ken symud i mewn i'w gartref newydd.
Rhoddodd Stella Edridge, Ysgrifennydd Abbeyfield, deyrnged i Ymddiriedolaeth Peter Saunders : “Mae'r rhodd hael hwn wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i Ken, ond mae hefyd wedi rhoi cyfleuster ychwanegol pwysig i'r t?. Rydym yn ddiolchgar dros ben i'r Ymddiriedolaeth am ei chymorth.”
Cafwyd cyfraniad gan yr Ymddiriedolaeth ar ôl i Abbeyfield gysylltu â ffynonellau eraill am gyllid, a chael ei wrthod ganddynt am nad oedd y gofyniad penodol yn bodloni meini prawf caeth. Roedd modd i Ymddiriedolaeth Peter Saunders fod yn fwy hyblyg.

