Sut i wneud cais am grant
Nod Ymddiriedolaeth Peter Saunders yw cefnogi mentrau elusennol, a'r rheiny'n bennaf yn Nhywyn a'r pentrefi cyfagos. Mae'r Ymddiriedolaeth yn arbennig o awyddus i annog ansawdd a rhagoriaeth yn y prosiectau mae'n eu cefnogi, gan wobrwyo sefydliadau ac unigolion sy'n dangos ymdrech, mesur o hunanddibyniaeth ac ysbryd mentergarwch.
Canllawiau i ymgeiswyr
Dylid gwneud ceisiadau am roddion gan yr Ymddiriedolaeth yn ysgrifenedig a'u hanfon at:
The Peter Saunders Trust
PO Box 67
Tywyn
LL36 6AH
Dylai'ch cais gynnwys yr wybodaeth a ganlyn:
- enw'r sefydliad neu'r unigolyn
- enw'r person y dylid cysylltu ag ef/hi ynghylch y cais.
- cyfeiriad gohebiaeth, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost, os oes un ar gael.
- p'un a yw'r sefydliad yn elusen gofrestredig
- pwrpas ac amcanion y sefydliad, neu eich amcan os ydych yn unigolyn
- beth yw cylch gorchwyl y sefydliad.
- cyfanswm ariannu eich prosiect
- faint o arian rydych yn gobeithio'i gael gan yr Ymddiriedolaeth
- ffynonellau eraill o arian rydych wedi gwneud cais iddynt
- cynigion eraill o arian rydych wedi eu derbyn
- ffynonellau eraill o arian rydych yn gwybod amdanynt ond heb wneud cais iddynt eto
- p'un a fyddwch yn ceisio arian cyfatebol am unrhyw arian a ddyfernir i chi gan yr Ymddiriedolaeth
- a fyddai unrhyw rodd gan yr Ymddiriedolaeth yn cymryd lle unrhyw ffynhonnell arall o arian
- Pa weithgareddau mae'r sefydliad neu'r unigolyn yn ymgymryd â nhw i godi arian
- Pa wahaniaeth fydd yn gwneud i'ch amcanion neu i amcanion eich cwmni os derbyniwch rodd gan yr Ymddiriedolaeth
- Yr ardal fydd yn elwa fwyaf ar unrhyw ddyfarniad a wneir gan yr Ymddiriedolaeth
Dylai ceisiadau gan sefydliad gynnwys copi o'ch cyfrifon diwethaf a chopi o'ch cyfansoddiad, os oes gennych un
Dylech hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall i ategu'ch cais y credwch y bydd o ddefnydd i'r Ymddiriedolwyr wrth ystyried dyfarniad.
