- Cefnogi ac ysgogi prosiectau lleol – o fewn y cymunedau yn Nhywyn a'r cylch.
- Cefnogi prosiectau cenedlaethol yng Nghymru, yn enwedig y rhai a fydd yn cael effaith ar yr ardal leol.
- Hyrwyddo rhagoriaeth a gwella ansawdd prosiectau y mae'n dewis eu cefnogi.
Rhoddir pwyslais ar brosiectau a fydd yn gwella cyfleusterau, neu'n darparu cyfleoedd a phrofiadau dysgu. Mae'r Ymddiriedolaeth o blaid prosiectau sy'n dangos ymdrech, mesur o hunanddibyniaeth ac ysbryd mentergarwch.
