The Peter Saunders Trust logo
English
Support for local police

Cartref yr Ymddiriedolaeth yw Llanegryn, Meirionnydd. Cafodd ei sefydlu yn 2005 gan Peter Saunders – entrepreneur, dyngarwr ac angel busnes.

Treuliodd Peter lawer o'i fywyd gwaith gerllaw yn Nhywyn lle, dros gyfnod o 30 mlynedd, adeiladodd grŵp arobryn o gwmnïau. Daeth y grŵp i gyflogi oddeutu 500 o bobl ac roedd yn cael ei gydnabod yn brif gyflogwr yr ardal ac yn rhan bwysig o'r economi wledig.

Pan werthodd Peter y grŵp, sefydlodd Ymddiriedolaeth Peter Saunders. Rhoddodd swm sylweddol o arian yn rhodd i'r Ymddiriedolaeth er mwyn iddi allu cefnogi prosiectau gwerth chweil yng Nghymru – ac yn enwedig yn y cymunedau gwledig o ble'r oedd ei gyn-staff yn dod.